Mae ffoaduriaid wedi cael eu cludo’n anghyfreithlon i wledydd Prydain ar gychod hwylio, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd aelod o’r cyhoedd iddo weld criw o bobol yn cael eu cludo oddi ar gwch yn Swydd Suffolk brynhawn dydd Sadwrn.

Ar ôl cyrraedd y lan, cawson nhw eu gweld yn cael eu gyrru i ffwrdd mewn Range Rover, a gafodd ei ddarganfod y tu allan i dafarn gerllaw yn ddiweddarach.

Mae lle i gredu bod pedwar dyn a dwy ddynes wedi ffoi o’r ardal yn dilyn y digwyddiad.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae Heddlu Llundain wedi apelio am wybodaeth.