Mae cefnogwr Brexit amlwg wedi wfftio’r cyswllt rhwng gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r cynnydd mewn troseddau casineb dros y misoedd diwethaf.
Yn ôl Daniel Hannan, Aelod Seneddol Ewropeaidd tros dde ddwyrain Lloegr, mae’r cynnydd wedi bod yn digwydd dros gyfnod hir.
Dywedodd ei bod yn beryglus cysylltu’r cynnydd â phenderfyniad gwledydd Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Daw sylwadau Hannan ddyddiau’n unig ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May gydymdeimlo â Gwlad Pwyl yn dilyn ymosodiadau diweddar ar Bwyliaid yng ngwledydd Prydain.
Ar raglen newyddion Murnaghan ar Sky News, dywedodd Hannan am y cyswllt honedig: “Dw i ddim yn derbyn hynny ac rwy’n credu ei bod yn beth gogwyddog i ofyn y cwestiwn yn y modd y gwnaethoch chi.
“Fe fu cynnydd yn yr adroddiadau am droseddau casineb dros gyfnod hir o amser oherwydd y ffordd y mae’r heddlu’n defnyddio’u gwefannau ac yn ymdrin â phob adroddiad fel digwyddiad.”
Ychwanegodd na fu cynnydd yn nifer yr achosion sydd wedi arwain at geisio erlyn, gan gyhuddo’r cyfryngau o fod yn “anghyfrifol” wrth adrodd am droseddau casineb.