Mae dau ddyn arfog gyda chyllell wedi ceisio cipio aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i un o safleoedd y Llu Awyr, yn ôl nodyn swyddogol.

Mae nodyn, sydd wedi cael ei weld gan bapur newydd y Daily Mirror, yn datgelu bod dau ddyn Asiaidd oedd a chyllell yn eu meddiant wedi ceisio cipio dyn pan oedd yn rhedeg tua milltir y tu allan i safle’r Llu Awyr yn Marham, Norfolk.

Mae nodyn arall a welwyd gan y papur yn cynghori staff milwrol i gadw proffil isel ac i beidio bod ar eu pen eu hunain ar droed neu ar feic mewn unrhyw wisg neu ddilledyn sy’n eu cysylltu gyda’r lluoedd arfog.

Mae llefarydd ar ran y Llu Awyr wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater ond meddai Heddlu Norfolk mewn datganiad a ryddhawyd nos Fercher nad oedd y milwr wedi cael ei anafu yn y  digwyddiad, a ddigwyddodd am oddeutu 3:30 y prynhawn.

Nid oedd y milwr yn gwisgo gwisg y fyddin ar y pryd ac nid yw’r dynion wedi cael eu darganfod hyd yn hyn.