Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod corff wedi cael ei ddarganfod ym mhentref Y Waun ger Wrecsam neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 8:50yh i leoliad ger y dyfrbont yn y pentref lle cafwyd  hyd i gorff dyn.

Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ond nid yw Heddlu Gogledd Cymru yn trin ei farwolaeth fel un amheus ac mae’r mater wedi cael ei gyfeirio at swyddfa’r Crwner.