Yr Arlywydd Recep Tayyip Erdogan
Mae disgwyl i senedd Twrci gymeradwyo cais Arlywydd Recep Tayyip Erdogan i gynnal stad o argyfwng am dri mis yn dilyn yr ymdrech aflwyddiannus i ddisodli’r llywodraeth wythnos ddiwethaf.

Mewn anerchiad i’r genedl nos Fercher cyhoeddodd Arlywydd Erdogan benderfyniad gan y cabinet i geisio pwerau ychwanegol gan ddweud y byddai stad o argyfwng yn galluogi’r Llywodraeth i fynd i’r afael â gweddill y cynllwynwyr.

Yn ôl cyfansoddiad Twrci, mae’n rhaid i’r 550 o aelodau’r senedd gymeradwyo cais am stad o argyfwng. O’r rheini, mae 317 yn aelodau o’r un blaid a’r Arlywydd.

Bydd y stad o argyfwng yn ei gwneud hi’n haws i’r llywodraeth gyflwyno cosbau llym sydd eisoes wedi cynnwys arestiadau torfol a chau cannoedd o ysgolion.

Ers nos Wener, mae bron i 10,000 o bobl wedi cael eu harestio, mae cannoedd o ysgolion wedi cau ac mae bron i 60,000 o weithwyr y gwasanaeth sifil wedi cael eu diswyddo.

Mae’r Arlywydd wedi cael ei gyhuddo o ymddygiad unbenaethol hyd yn oed cyn nos Wener, ond meddai y byddai’r stad o argyfwng yn helpu’r wlad i fynd i’r afael â’r bygythiadau i ddemocratiaeth.