Mae partner yr awdures Helen Bailey wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio.

Mae disgwyl i Ian Stewart, 55, ymddangos yn y llys yn Hatfield ddydd Sadwrn, wedi’i gyhuddo o lofruddio awdures y nofel ‘Electra Brown’, o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac o atal claddedigaeth.

Cafwyd hyd i gorff yr awdures yn ei gardd yn Swydd Hertford.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal ddydd Llun wrth i’r ymchwiliad barhau.