Mae’r Wladwriaeth Islamaidd yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am y gyflafan yn Nice nos Iau a laddodd 84 o bobol.

Yn ôl swyddogion, mae pump o bobol wedi cael eu harestio.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod a oedd gyrrwr y lori a darodd i mewn i’r dorf yn ystod dathliad Diwrnod y Bastille wedi bod yn gweithredu ar ei ben ei hun, neu’n rhan o griw.

Cafodd mwy na 200 o bobol eu hanafu ar ôl i Mohamed Lahouaiej-Bouhlel yrru i mewn iddyn nhw ar y Promenade des Anglais.

Cafodd dau o bobol eu harestio ar ôl i’r heddlu chwilio adeilad ger gorsaf drenau Nice fore Sadwrn, a chafodd un arall ei arestio cyn hynny mewn lleoliad arall yn Nice.

Yn ôl adroddiadau, cafodd cyn-wraig Lahouaiej-Bouhlel ei holi ddydd Gwener.

Dywedodd ei dad fod ei fab wedi derbyn triniaeth seiciatryddol yn y gorffennol.

Dywedodd Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande fod 50 o bobol “rhwng byw a marw”.

Mae pobol wedi bod yn ymgasglu ar y strydoedd i adael teyrngedau i’r meirw.