Tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon yw’r dafarn fwyaf Cymreig yn y byd.

Daeth y dafarn i frig cystadleuaeth Arloesi Gwynedd Wledig, oedd yn dathlu’r ffaith fod busnesau yn defnyddio’r Gymraeg.

Cafodd Tafarn y Black Boy 1,473 o bleidleisiau gan y cyhoedd.

Roedd y rhestr fer yn cynnwys Bar Bach yng Nghaernarfon, Bwyty Tŷ Golchi ger Y Felinheli, a Whitehall ym Mhwllheli.

Cafodd yr enillydd ei ddewis yn dilyn ymgyrch ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd y Perchennog John Evans: “Rydym wrth ein boddau gyda’r nifer o bobol a bleidleisiodd drosom. Mae eich cefnogaeth yn ein gyrru i gynnig y profiad gorau posib yn ein lleoliad yng Nghaernarfon.”