Bydd llyfr rhyngweithiol ar gyfer myfyrwyr busnes sy’n astudio drwy’r Gymraeg yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd y llyfr yn ganllaw i entrepreneuriaid y dyfodol.

Mae ‘Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entrepreneuriaid’ wedi’i gyhoeddi gan Brifysgol De Cymru, ac mae’n werslyfr aml-gyfrwng, aml-gyffwrdd, sydd wedi’i lunio ar gyfer ymchwil academaidd ac ar gyfer defnydd ymarferol mewn amgylchedd busnes.

Mae’r llyfr rhyngweithiol Cymraeg yn ganlyniad cydweithio rhwng Prifysgol De Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y lansiad yn dechrau am 11am ddydd Llun 3ydd o Awst ar stondin Prifysgol De Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Fenni.

Mae’r llyfr rhyngweithiol ar gael am ddim yma: https://itunes.apple.com/us/book/dulliau-ymchwil-ar-gyfer-myfyrwyr/id1117980058