Strydoedd Nice wedi'r gyflafan (Llun: PA)
Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r gyflafan yn Ffrainc pan gafodd 84 o bobol eu lladd gan lori, yn ôl adroddiadau’r wasg Ffrengig.
Cafodd un dyn ei arestio ddydd Gwener, a’r tri arall y bore ma, meddai asiantaeth newyddion AFP.
Cafodd lori ei gyrru gan Mohamed Lahouaiej-Bouhlel i ganol torf o bobol oedd wedi ymgynnull i nodi Diwrnod y Bastille yn Nice ddydd Iau.
Cafodd y gyrrwr ei saethu’n farw gan yr heddlu.
Mae disgwyl i drafodaethau brys gael eu cadeirio gan Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.
Mae tad Lahouaiej-Bouhlel wedi dweud bod ei fab wedi derbyn triniaeth seiciatryddol yn y gorffennol, a’i fod yn dreisgar.
Dywedodd Monthir Bouhlel wrth RTL fod gan ei fab “salwch difrifol”.
Doedden nhw ddim wedi gweld ei gilydd ers pedair blynedd, meddai, ond fe siaradon nhw’r wythnos diwethaf.
Cafodd Lahouaiej-Bouhlel ddedfryd ohiriedig ym mis Mawrth yn dilyn ffrwgwd ar y ffordd
Dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd ei ymddygiad ar y pryd yn wahanol i’r arfer.
Cafodd ei gartref ei chwilio ddydd Gwener a’r cartref y bu’n rhannu â’i wraig cyn iddyn nhw wahanu yn 2012.
Doedd dim awgrym ei fod wedi’i gysylltu â radicaliaeth na brawychiaeth yn y gorffennol, meddai’r heddlu.