Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol brynhawn dydd Gwener.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cylchfan Basaleg a Thŷ-du am oddeutu 4.30yp.

Tarodd tryc Isuzu yn erbyn Vauxhall Astra, a chafodd dyn 64 oed – gyrrwr y Vauxhall Astra – ei ladd yn y fan a’r lle.

Mae gyrrwr a theithiwr y tryc yn derbyn triniaeth am fân anafiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.