Recep Tayyip Erdogan, Arlywydd Twrci (Llun: PA)
Mae 90 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i garfan o fyddin Twrci ceisio cipio grym oddi ar lywodraeth y wlad.
Cadarnhaodd prif weinidog, Binali Yildirim y wlad fod carfan fach yn gyfrifol am y digwyddiad, gan ychwanegu na fyddai’r wlad yn derbyn unrhyw “fenter a fyddai’n tarfu ar ddemocratiaeth”.
Cafodd awyrennau milwrol eu gweld yn hedfan dros y brifddinas Ankara, a chafodd ambiwlansys eu gweld ger pencadlys y fyddin.
Dywedodd Yildirim: “Roedd yna weithred anghyfreithlon gan garfan o fewn y fyddin a oedd yn gweithredu ar sail gorchymyn milwrol.
“Dylai ein pobol wybod na fyddwn ni’n derbyn unrhyw weithgarwch a fyddai’n niweidio democratiaeth.”
Mae cwmni awyrennau BA wedi canslo’u holl deithiau i’r wlad.