Jeffrey Davies
Mae cyn-dditectif gyda Heddlu’r De wedi ei garcharu am 18 mlynedd am dreisio dwy ddynes.
Roedd Jeffrey Davies, 45, o Aberdâr, yn gwasanaethu fel heddwas yng Nghwm Rhondda pan dreisiodd y merched yn 2002 a 2003.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd iddo gael ei ddiswyddo o’r heddlu yn 2013 ar ôl cael ei ganfod yn euog o droseddau rhyw eraill.
Fe glywodd y llys bod Jeffrey Davies yn targedu merched bregus, ac fe ddywedodd wrth un ddioddefwraig y byddai cael ei threisio “yn gwneud iddi deimlo yn well” wrth iddo ymosod arni ar fynydd Bwlch yn Rhondda Cynon Taf yn 2002.
Roedd y ddynes yn credu ei fod yn mynd â hi i orsaf heddlu, ond fe aeth â hi i’r mynydd.
Fe dreisiodd yr ail ddynes yn ei chartref yn 2003.
Dywedodd yr erlynydd bod y ddwy wedi dioddef yn ddistaw bach am ddegawd a mwy, cyn darllen adroddiadau newyddion bod y cyn-dditectif wedi ei garcharu yn 2013 am ymosod ar ferched eraill.
Dywedodd y Barnwr Jonathan Furness nad oedd Jeffrey Davies wedi dangos “yr un gronyn o edifeirwch”.
Bydd y cyn-dditectif dan glo am hanner ei ddedfryd cyn cael ei ryddhau ar drwydded, ac ni fydd yn cael gweithio gyda phlant.