Mae arbenigwyr ar drais gwleidyddol wedi disgrifio dinas Nice fel “magwrfa i jihadwyr”.
Daw ei sylwadau yn dilyn yr ymosodiadau neithiwr gan ddyn yn gyrru lori trwy dorf o bobl yn ystod dathliadau Bastille, gan ladd 84 o bobl, gyda degau yn ddifrifol wael.
Mae Peter Neumann, sy’n gyfarwyddwr canolfan sy’n astudio trais gwleidyddol a radicaleiddio yn King’s College Llundain, yn honni fod y rhan fwyaf o’r rhai fu’n gyfrifol am ymosodiadau Paris, heblaw am rai o Wlad Belg, wedi dod o Nice.
Dywedodd Peter Neumann fod nifer o bobl Nice wedi ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd a bod “y ddinas wedi bod yn fagwrfa i jihadwyr ers nifer o flynyddoedd”.
“Yr ydym wedi gweld dwsinau o bobl o Nice yn ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd, gydag ymosodiad cyntaf yn Ewrop yn digwydd gerllaw yn Cannes, ac mae’n fwy tebyg fod yr ymosodwyr yn dod o’r ardal leol, yn hytrach na thramor.
“Os daw i’r amlwg nad ymosodiad ynysig oedd hwn a’i fod wedi’i orchymyn o Syria ac Irac, fe fyddai’n gwneud synnwyr i geisio dileu’r hafan sy’n cael ei fwynhau gan IS yn Irac a Syria. Ond ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn gwybod.”