Bydd digwyddiad arbennig yng Nghaerfyrddin yfory i gofio buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans wrth iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru union 50 mlynedd yn ôl.
Yn ystod ‘Gŵyl Gwynfor’ fe fydd cofeb i’r cawr cenedlaetholgar yn cael ei dadorchuddio ar sgwâr y dre’, ger Neuadd y Guildhall, lle cafodd ei lwyddiant ei gyhoeddi noson isetholiad Caerfyrddin ar 14 Gorffennaf 1966.
Mae buddugoliaeth Gwynfor Evans yn cael ei weld gan sawl un fel trobwynt gwleidyddol a arweiniodd at ddatganoli i Gymru, ac i’r Alban hefyd – yn fuan wedi’r canlyniad, cafodd yr Alban ei Aelod Seneddol SNP cynta’.
“Fyddai Cynulliad ddim yng Nghaerdydd heddiw oni bai am Gwynfor Evans. Mae’r gofeb yn dathlu’r hyn gyflawnodd y dyn rhyfeddol hwn,” meddai Peter Hughes Griffiths o Ymddiriedolaeth Gwynfor Evans, a drefnodd y gofeb.
Bydd y plac, gan y cerflunydd Cymreig, Roger Andrews, yn cael ei dadorchuddio mewn seremoni am 2 o’r gloch.
Hen wynebau
Wedi hynny, am 2:45yp, bydd rhai o ffigurau blaenllaw Plaid Cymru, fel Dafydd Iwan a Dafydd Wigley, yn cyfrannu mewn achlysur iddo yng nghapel Heol Awst yn y dref.
Bydd cynrychiolwyr etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yno hefyd – yr Aelod Cynulliad, Adam Price a’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards – a fydd yn darllen rhannau o araith gyntaf Gwynfor Evans i Dŷ’r Cyffredin ym 1966.