Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn mynd ar ei daith flynyddol o gwmpas digwyddiadau’r haf yng Nghymru.

Y gyrchfan gyntaf fydd Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 18 a 21 Gorffennaf, lle bydd y staff y Cynulliad yn egluro gwaith y Cynulliad.

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal derbyniad i gyflwyno Aelodau i randdeiliaid ac i drafod blaenoriaethau i’w hystyried yn ystod y Pumed Cynulliad.

Fe fydd y daith yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni rhwng 1 a 5 Awst, ac unwaith eto, bydd y Cynulliad yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau ym Mhabell y Cymdeithasau.

Ymhlith y digwyddiadau fydd trafodaeth ynghylch yr hyn y gallai Brexit ei olygu i Gymru, yn ogystal â sgwrs onest rhwng y Llywydd, Elin Jones a’r newyddiadurwr Catrin Hâf Jones. Gwahoddir cwestiynau gan y gynulleidfa a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #HoliLlywydd ar Twitter, neu drwy bostio ar dudalen Facebook y Cynulliad.

Trafod syniadau

Bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, dan arweiniad y Cadeirydd Bethan Jenkins AC, hefyd yn cynnal trafodaeth panel i drafod syniadau ar gyfer materion y dylai fod yn eu hystyried.

I gyd-fynd gyda Gŵyl yr Harbwr rhwng 27 a 29 Awst, bydd penwythnos o hwyl i’r teulu yn y Senedd ym Mae Caerdydd.