Fe fydd y Senedd ym Mae Caerdydd yn goleuo’n las, gwyn a choch heno, er mwyn dangos cefnogaeth i bobol Ffrainc ar ôl i ymosodiad yn ninas Nice achosi marwolaethau o leia’ 84 o bobol.

Mae disgwyl gwylnos ar risiau’r Cynulliad Cenedlaethol hefyd, wedi’i threfnu gan Is-gennad Anrhydeddus Ffrainc yng Nghymru, Marie Brousseau-Navarro.

Mae’r adroddiadau diweddaraf yn dweud bod 50 o bobol mewn cyflwr difrifol yn dilyn yr ymosodiad – ar ben yr 84 o bobol a phlant sydd eisoes wedi’u lladd.

Roedd pobol y ddinas ar y Promenade des Anglais i ddathlu Diwrnod y Bastille, sef diwrnod cenedlaethol Ffrainc.

Enwi dyn yn lleol

Mae llygad-dystion yn dweud bod yr ymosodwr yn Nice – sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Mohamed Lahouaiej Bouhlel – wedi gyrru o ochr i ochr i ladd cymaint o bobol ag oedd yn bosib.

Yn ôl adroddiadau, roedd y dyn sy’n cael ei amau yn 31 oed ac yn byw yn Nice ond yn dod o Dwnisia. Cafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl yr ymosodiad.

Yng Nghymru, mae heddluoedd wedi cael cyfarwyddiadau i dynhau eu mesurau diogelwch mewn digwyddiadau mawr yn dilyn y gyflafan, wrth i’r Prif Weinidog, Theresa May, gyhoeddi bod angen “dwysáu’r” frwydr yn erbyn brawychiaeth.

Mae Stad o Argyfwng Ffrainc wedi’i ymestyn am dri mis pellach a bydd y wlad yn cael tri diwrnod swyddogol o alaru.