Mae dyn a dynes wedi marw ar ôl cael eu saethu mewn pentref yn Norfolk.

Cafodd y pâr, sy’n eu 40au hwyr, eu canfod yn farw ym mhentref Magdalen ger King’s Lynn, toc wedi hanner nos, meddai heddlu Norfolk.

Cafodd y dyn ei ganfod yn ardd flaen y tŷ tra bod y ddynes wedi cael ei chanfod y tu mewn i’r eiddo.

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Paul Durham bod yr heddlu’n rhoi eu holl ymdrechion i geisio darganfod yr amgylchiadau a arweiniodd at eu marwolaeth.