Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (NEC) y Blaid Lafur yn wynebu’r bygythiad o gamau cyfreithiol os nad yw enw Jeremy Corbyn yn cael ei gynnwys ar y papur pleidleisio am arweinyddiaeth y blaid.

Mae disgwyl i’r NEC gyfarfod i drafod a oes angen i Jeremy Corbyn ennill 52 o enwebiadau gan ASau ac ASEau y blaid i sefyll yn dilyn her i’w arweinyddiaeth gan Angela Eagle.

Mae cyfreithwyr sy’n gweithredu ar ran Jim Kennedy, aelod undeb llafur o’r NEC, wedi ysgrifennu at ysgrifennydd cyffredinol y blaid Iain McNicol yn rhybuddio y byddant yn cymryd camau cyfreithiol oni bai fod Jeremy Corbyn yn cael ei gynnwys yn awtomatig.

Mae’r cyfreithwyr yn rhybuddio bod rheolau’r blaid yn dangos yn glir y dylai arweinydd presennol y blaid gael ei gynnwys yn awtomatig a’u bod yn barod i erlyn Iain McNicol yn bersonol os nad yw hynny’n digwydd.

Mae’r NEC wedi derbyn cyngor cyfreithiol anghyson ar y mater gyda dadansoddiad a gomisiynwyd gan Lafur yn awgrymu ei fod angen yr enwebiadau, ond mae cyngor gafodd undeb Unite gan Michael Mansfield QC wedi dod i’r casgliad nad oes angen yr enwebiadau oherwydd ei fod yn arweinydd  presennol.

Yn y cyfamser, mae arolwg barn YouGov wedi datgelu fod cefnogaeth i Jeremy Corbyn o fewn undebau yn gostwng.

Yn yr arolwg o 1,221 o aelodau undebau llafur  Unite, y GMB, Unsain, Usdaw a’r CWU, dywedodd bron i ddwy ran o dair (63%) o’r ymatebwyr ei fod yn arweinydd gwael o’i gymharu â thraean (33%) a ddywedodd ei fod gwneud yn dda.

Mae’r arolwg yn arwyddocaol gan fod 12 o seddi’r NEC – tua thraean – yn cael eu cymryd gan gynrychiolwyr undebau.