Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae cwtogi nifer yr ysgolion uwchradd yng Ngwynedd o 14 i chwech neu saith yn un o argymhellion adroddiad mae cyfarfod llawn o’r Cyngor Sir yn ei ystyried heddiw wrth iddyn nhw drafod dyfodol addysg yn y sir.
Yn ôl y corff adolygu Estyn, arweinyddiaeth dda sy’n arwain at welliant mewn addysg ac ar hyn o bryd mae pryderon am les uwch reolwyr ysgolion oherwydd eu bod yn dioddef pwysau gwaith wrth geisio dysgu yn ogystal â rheoli ac arwain.
Mae pryder hefyd am broblemau recriwtio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd y sir.
Mewn adroddiad gan ddau ymgynghorydd addysg a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd, dyw’r trefniadau presennol ddim yn ddigon da ac mae angen newid.
Argymhellion
Un o’r argymhellion yn yr adroddiad yw y dylid lleihau nifer yr ysgolion i’r nifer isaf sydd eu hangen er mwyn “creu amgylcheddau dysgu cynaliadwy, llwyddiannus”.
Ar lefel uwchradd, argymhellir gostwng cyfanswm yr ysgolion o 14 i chwech neu saith ar y mwyaf.
Ar lefel cynradd, mae’n argymell cadw mwyafrif yr ysgolion presennol a chreu cyfres o ysgolion cydweithredol.
Cynradd
Mewn ysgolion cynradd, meddai’r adroddiad y dylai’r drefn addysg anelu at roi 80% o amser digyswllt ble na ddylai’r pennaeth ddysgu plant gan ganolbwyntio ar swyddogaethau rheoli.
Ac os nad oes dosbarthiadau o ddim mwy na dau oedran mewn ysgol gynradd, dylid cau’r ysgol sydd dan ystyriaeth, gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i’r ysgol neu ysgolion eraill cyfagos. Os nad yw hynny’n bosibl, yr opsiwn arall yw sefydlu ysgol ardal newydd sydd wedi’i chynllunio’n bwrpasol.
Uwchradd
O ran ysgolion uwchradd, mae’r adroddiad yn cynnig y dylid cadw’r safleoedd presennol ond creu strwythur o chwech neu saith ysgol ar y mwyaf – gyda phob ysgol gyda thua 900 o ddisgyblion – gan hwyluso gwaith penaethiaid.
Yn ôl prif weithredwr Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams mae heriau mawr i’r system addysg yng Ngwynedd.
Meddai: “Mae’r adroddiad sydd gerbron yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r heriau sydd yn wynebu’r gyfundrefn addysg yng Ngwynedd ac mae’n gyson â nifer o negeseuon sydd wedi cael eu derbyn o du llywodraethwyr, penaethiaid, rhieni a Phwyllgor Craffu.
“Mae’r adroddiad yn ceisio amlinellu egwyddorion sylfaenol a fydd yn ganllawiau pwysig yn y trafodaethau i’r dyfodol.”
Os yw’r aelod cabinet dros addysg, Gareth Thomas, yn cael caniatâd cynghorwyr heddiw, bydd yn ymgynghori’n bellach gyda llywodraethwyr, ysgolion a’r pwyllgor craffu gan adrodd yn ôl i’r Cabinet ym mis Tachwedd.