Mae carcharor wedi lladd dau swyddog diogelwch ac anafu dau o bobl eraill mewn llys ym Michigan ar ôl dwyn gwn gan blismon wrth geisio dianc.

Roedd Larry Gordon, 44, a oedd yn y ddalfa’n wynebu sawl cyhuddiad yn ei erbyn, yn cael ei symud o’i gell i ymddangos yn y llys pan lwyddodd i ddwyn y gwn yn nhref St Joseph sydd tua 100 milltir i’r gogledd ddwyrain o Chicago.

Bu farw Joseph Zangaro, 61, pennaeth diogelwch y llys, a Ronald Kienzle, 63, a oedd yn swyddog yr heddlu wedi ymddeol, yn y digwyddiad.  Roedd y ddau wedi cael eu cyflogi gan y llys ers degawd.

Llwyddodd Larry Gordon hefyd i anafu’r dirprwy siryf, James Atterberry, 41, a dynes arall ond mae’n debyg nad yw eu hanafiadau yn rhai sy’n peryglu eu bywydau.

Cafodd Larry Gordon ei saethu’n farw gan ddau swyddog diogelwch yn y llys a dau heddwas arall cyn iddo adael yr adeilad.