Mae pum dyn wedi marw ar ol i wal 15 troedfedd ddymchwel mewn canolfan ail-gylchu yn Birmingham.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Hawkeswood Metal yn ardal Nechells am 8.45yb y bore ma.

Dywedodd Heddlu West Midlands bod y pum dyn, y credir oedd yn dod o’r Gambia yn wreiddiol, wedi marw yn y fan a’r lle.

Cafodd chweched dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w goes.

Mae ymchwiliad ar y gweill ac mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu.

Yn ol y Gwasanaeth Tan roedd strwythur concrid mawr oedd yn cynnwys metel wedi dymchwel ar y safle.