Owen Smith
Mae AS Pontypridd wedi gwneud apêl i aelodau’r blaid Lafur am undod yn dilyn y ffraeo diweddar.

Roedd Owen Smith yn un o’r Aelodau Seneddol wnaeth ymddiswyddo o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn oherwydd anhapusrwydd am y ffordd wnaeth o ymdrin ag ymgyrch y refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd fis diwethaf.

Roedd rhai’n credu y byddai Owen Smith yn herio arweinyddiaeth  Jeremy Corbyn dros y rhwyg sydd wedi ymddangos o fewn y blaid ond mae wedi rhyddhau datganiad heddiw’n galw ar ASau  i roi “bob cyfle” i sgyrsiau sy’n digwydd rhwng swyddfa’r arweinydd, y dirprwy arweinydd Tom Watson a’r undebau.

Mae hefyd wedi annog pob aelod o’r mudiad Llafur i wneud popeth yn eu gallu i osgoi rhaniad “trychinebus” o fewn y blaid.

Mae’n debygol y bydd ymyrraeth Owen Smith yn gwneud her ffurfiol i arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn llai tebygol yn y tymor byr – er bod disgwyl i Corbyn ennill unrhyw bleidlais arall am yr arweinyddiaeth gan fod ymgyrchwyr a chefnogwyr y blaid ar lawr gwlad yn gefnogol iddo.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth Jeremy Corbyn wrthod galwadau i roi’r gorau iddi fel arweinydd y Blaid Lafur ar ôl i ASau gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder ynddo o 172-40.