Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi diswyddo nyrs am dorri cyfrinachedd claf a chod ymddygiad proffesiynol yn ogystal â pholisïau’r Bwrdd Iechyd ar ddiogelu data a rheoli gwybodaeth.

Cafodd y nyrs ei ddiswyddo ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod yr unigolyn wedi gweld cofnodion ysbyty cleifion na ddylai wedi gweld.

Mae’r bwrdd iechyd wedi ysgrifennu at nifer fawr o gleifion i “ymddiheuro’n ddiffuant” am y digwyddiad a rhoi gwybodaeth a chefnogaeth iddynt. Maen nhw hefyd wedi agor llinell gymorth i’r cleifion sydd wedi eu heffeithio.

Ond meddai prif weithredwr y bwrdd iechyd nad yw’r ymchwiliad i’r digwyddiad wedi dangos bod unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud i’r cofnodion.

‘Ymddiheuro’

 

Dywed prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore: “Rydym yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol iawn a dw’i wedi ysgrifennu at bob claf sydd wedi’i effeithio’n uniongyrchol er mwyn ymddiheuro am weithredoedd yr unigolyn hwn, sy’n mynd yn groes i’w god ymddygiad proffesiynol ei hun a pholisïau a gweithdrefnau’r bwrdd iechyd.

“Rydym yn medru tawelu meddwl pobl drwy ddweud nad yw ein hadolygiad wedi dangos unrhyw newidiadau na diwygiadau i’r cofnodion. Nid oes tystiolaeth o’r adolygiad chwaith bod yr unigolyn wedi defnyddio’r wybodaeth at unrhyw ddiben heblaw i edrych arno. Mae’r unigolyn wedi dweud wrthym ei fod wedi edrych ar y cofnodion ond heb wneud dim byd pellach â’r wybodaeth.”

Daeth y digwyddiad i’r amlwg ddiwedd llynedd a chynhaliwyd adolygiad er mwyn canfod faint o gofnodion oedd y nyrs wedi eu gweld. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cyfeirio’r digwyddiad at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i’w ymchwilio’n bellach ac maen nhw’n cymryd camau i wella diogelwch er mwyn osgoi rhywbeth tebyg rhag digwydd eto.

‘Synnu gyda’r sefyllfa’

Ychwanegodd Steve Moore: “Unwaith eto, dwi’n ymddiheuro’n ddiffuant bod cyn-aelod o staff, tra mewn safle o ymddiriedaeth, wedi ymddwyn yn y modd hwn.

“Ni ddylai hyn fod wedi digwydd a dwi’n gwybod y bydd ein staff, fel ein Bwrdd, wedi synnu â’r sefyllfa, yn enwedig ein nyrsys gwych y mae cyfrinachedd cleifion wrth wraidd eu gwerthoedd. Dwi’n gobeithio y bydd ein staff a’r cyhoedd yn sicr o’n hymrwymiad parhaus i  atal hyn rhag digwydd eto.”

Gall unrhyw un sydd wedi derbyn llythyr am y digwyddiad gysylltu â’r Bwrdd Iechyd drwy linell gymorth rhad ac am ddim ar 0800 804 8787.