Liam Fee Llun: PA
Mae mam a’i phartner sifil wedi cael eu carcharu am oes am lofruddio ei mab ar ôl iddo gael ei gam-drin a’i esgeuluso am fwy na dwy flynedd.

Bu farw Liam Fee, 2, yn ei gartref ger Glenrothes, Fife ar 22 Mawrth, 2014, ar ôl cael anafiadau i’w galon, tebyg i’r rhai a fyddai person wedi’i gael mewn gwrthdrawiad ffordd.

Roedd ei fam, Rachel Trelfa neu Fee, 31, a’i phartner Nyomi Fee, 29, wedi ceisio rhoi’r bai am ei farwolaeth ar fachgen ifanc ond fe gawson nhw eu dyfarnu’n euog o lofruddiaeth Liam ym mis Mai yn dilyn achos yn yr Uchel Lys yn Livingston.

Cafwyd y cwpl hefyd yn euog o achosi creulondeb i ddau fachgen arall yn eu gofal, gan gynnwys yr un a gafodd y bai am farwolaeth Liam. Ni ellir cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol.

Roedd y ddwy wedi gwadu llofruddio Liam ond wedi cyfaddef methiannau difrifol drwy beidio â chael cymorth meddygol iddo ar ôl i’r bachgen dorri ei goes.

Cafodd y ddwy eu dedfrydu i garchar am oes yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin heddiw.

Bydd Trelfa yn gorfod treulio lleiafrif o 23 mlynedd a hanner dan glo tra bydd yn rhaid i Fee dreulio o leiaf 24 mlynedd yn y carchar cyn gwneud cais am barôl.

Clywodd y llys bod nifer o bobl wedi mynegi pryderon ynglŷn â lles Liam ac mae Cyngor Fife bellach yn adolygu’r modd yr oedd wedi delio a’r achos.