Y cyn-Brif Weinidog Tony Blair a chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau George Bush Llun: PA
Mae’r cyn-Brif Weinidog Tony Blair, swyddogion Whitehall a phrif swyddogion y fyddin i gyd wedi cael eu beirniadu yn Adroddiad Chilcot i’r rhyfel yn Irac.

Yn yr adroddiad hir-ddisgwyliedig a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Syr John Chilcot fod y penderfyniad i fynd i ryfel wedi cael ei wneud cyn bod y llywodraeth ar y pryd wedi ymchwilio i’r holl opsiynau oedd ar gael iddyn nhw.

Un o gasgliadau mwyaf damniol yr adroddiad yw nad oedd Saddam Hussein yn fygythiad ar y pryd.

Ond dydy casgliad rhai o feirniaid Blair ei fod e wedi cytuno gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, George W Bush i fynd i ryfel mor bell yn ôl ag Ebrill 2002, ddim wedi cael ei gefnogi.

Blair yn cefnogi Bush ‘doed a ddêl’

Serch hynny, dywedodd Blair wrth Bush rai misoedd yn ddiweddarach y byddai’n ei gefnogi “doed a ddêl”.

Yn ôl yr adroddiad, roedd y penderfyniad i fynd i ryfel yn groes i awdurdod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Un arall sy’n cael ei feirniadu yn yr adroddiad yw’r Twrnai Cyffredinol ar y pryd, yr Arglwydd Goldsmith, wrth i’r adroddiad ddweud bod ei benderfyniad fod sail i fynd i ryfel yn “anfoddhaol”.

Ym mis Medi 2002, meddai’r adroddiad, roedd y ffeil a gafodd ei chyflwyno gan Blair ynghylch taflegrau wedi’i chyflwyno mewn modd anfoddhaol.

‘Cudd-wybodaeth wallus’

Yn wir, roedd polisi’r Llywodraeth ar y rhyfel yn Irac wedi’i lunio ar sail “cudd-wybodaeth wallus”, meddai’r adroddiad, ac y dylid fod wedi herio hynny.

Dywed yr adroddiad hefyd fod Llywodraeth Prydain wedi tan brisio canlyniadau’r rhyfel, ac nad oedd y paratoadau ar gyfer bywyd ar ôl Saddam Hussein yn ddigonol, ac roedd gweithgarwch Whitehall yn hynny o beth yn ddiffygiol.

Roedd rhai o ganlyniadau’r rhyfel – brwydro mewnol, dylanwad Iran, ansefydlogrwydd a chynnydd yng ngweithgarwch al-Qaeda – i gyd wedi cael eu nodi fel peryglon ymlaen llaw, meddai’r adroddiad.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd wedi cael eu beirniadu am fethu ag ymateb i berygl ffrwydron ac am yr oedi wrth ddarparu cerbydau gwell i filwyr.