Oscar Pistorius Llun: PA
Mae’r athletwr Oscar Pistorius wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar am lofruddio ei gariad, Reeva Steenkamp.
Cafodd y rhedwr Olympaidd ei ddedfrydu yn yr Uchel Lys yn Pretoria, De Affrica, am ladd ei gariad yn ei gartref ar Ddiwrnod San Ffolant 2013.
Fe wnaeth rhieni Reeva Steenkamp, Barry a June, eistedd ar fainc ar ochr yr ystafell wrth i’r ddedfryd gael ei darllen gan y barnwr Thokozile Masipa.
Fe allai Pistorius fod wedi wynebu 15 mlynedd dan glo ond dywedodd y barnwr bod “ffactorau arbennig” i’w hystyried.
Roedd cynrychiolaeth o gynghrair menywod y blaid sydd mewn grym yn Ne Affrica, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, yn bresennol hefyd yn yr ystafell orlawn.
Cafwyd Oscar Pistorius yn euog o lofruddiaeth, yn hytrach na dynladdiad ar ôl i’w ddyfarniad gwreiddiol gael ei wyrdroi.
Bu farw Reeva Steenkamp ar ôl cael ei saethu drwy ddrws ystafell ymolchi.