Oscar Pistorius yn cyrraedd yr Uchel Lys yn Pretoria cyn cael ei ddedfrydu Llun: PA/Shiraaz Mohamed
Mae’r athletwr Oscar Pistorius, yn cael ei ddedfrydu heddiw mewn llys yn Ne Affrica am lofruddio ei gariad, Reeva Steenkamp.
Mae’r barnwr yn crynhoi’r dyfarniad mewn ystafell lys yn Pretoria.
Fe wnaeth yr athletwr Olympaidd, a laddodd ei gariad yn ei gartref ar Ddiwrnod San Ffolant 2013, gyrraedd y llys cyn y ddedfryd, gan gofleidio aelodau ei deulu.
Fe wnaeth rhieni Reeva Steenkamp, Barry a June, eistedd ar fainc ar ochr yr ystafell wrth i’r ddedfryd gael ei darllen.
Roedd cynrychiolaeth o gynghrair menywod y blaid sydd mewn grym yn Ne Affrica, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, yn bresennol hefyd yn yr ystafell orlawn.
Gallai Oscar Pistorius wynebu cyfnod o 15 mlynedd yn y carchar ar ôl iddo ei gael yn euog o lofruddiaeth, yn hytrach na dynladdiad.
Bu farw Reeva Steenkamp ar ôl cael ei saethu drwy ddrws ystafell ymolchi.