Cefnogwyr Cymru yn dathlu Llun: Martin Rickett/PA
Gydag ychydig oriau cyn yr ornest fawr rhwng Cymru a Phortiwgal heno, mae trefnwyr y ffanbarth anferth yn Stadiwm Principality wedi cyhoeddi bod mwy o docynnau bellach ar gael.
Bydd 7,500 o docynnau ychwanegol ar gael i wylio’r gêm ar sgriniau mawr, ar ôl i’r 20,000 o docynnau oedd ar gael ddoe gael eu gwerthu o fewn dwy awr.
Bydd 27,500 o gefnogwyr Cymru yn gwylio’r gêm yn y stadiwm felly – y nifer fwyaf sy’n gallu cael eu cynnal yno gyda’r trac Speedway yno hefyd.
Dyma fydd ffanbarth mwyaf Cymru ac fe fydd pum gwaith yn fwy na chaeau Parc Biwt, lle mae ffanbarth Caerdydd wedi bod dros y gemau diwethaf.
Bydd y tocynnau am ddim ar gael i’w hawlio o 10 o’r gloch bore ‘ma, a’r cyntaf i’r felin caiff falu amdanynt.
Miloedd o Gymry’n paratoi
Hon fydd y gêm fwyaf yn hanes tîm pêl droed Cymru ar ôl iddi lwyddo i gyrraedd y rownd gynderfynol yn Ewro 2016, ac mae disgwyl miloedd o Gymry i gyrraedd Lyon ar ei chyfer.
Mae streic gan reolwyr traffig awyr Ffrainc yn golygu y gallai fod peth oedi ar gyfer teithwyr sy’n hedfan i’r ddinas, gyda 200 o deithiau wedi cael eu gohirio ddydd Mawrth.
Mae disgwyl y bydd 900 o bobol o faes awyr Caerdydd yn unig yn hedfan heddiw.
Bydd ffanbarthau ledled y wlad hefyd, yn y Rhyl, Wrecsam, Ynys Môn, Bae Colwyn, Aberystwyth, Abertawe, Casnewydd a Phontypridd.
Dim diwedd y daith
Yn ôl rheolwr Cymru, Chris Coleman, beth bynnag fydd yn digwydd heno, nid hwn fydd diwedd y daith i’r tîm o bell ffordd.
“Mae pobol yn meddwl mai diwedd y bencampwriaeth fydd diwedd y daith, ond dyw e ddim,” meddai.
“Mae’n rhan o’r daith. Y profiad fydd y grŵp hwn o fechgyn yn ei gael o hyn. Byddan nhw yma llawer yn hirach ar ôl i fi fod ‘ma. Mae’r llwyddiant yn rhan o’r broses ddysgu.
“Rydym ni yma i gystadlu a dysgu, a gadewch i ni weld os yw ein gorau yn ddigon i gystadlu yn erbyn y gorau.”
Gwybodaeth i bobol sydd am gael tocynnau i ffanbarth Caerdydd
- Os oes gennych docynnau yn barod, fyddwch chi ddim yn cael gwneud cais am ragor;
- Mae tocynnau ar gael ar-lein yn unig, ar wefan Undeb Rygbi Cymru
- Mae’r ciw am docynnau yn dechrau am 10 bore ‘ma, fydd ciwio cyn hynny ddim yn eich helpu i gael tocyn;
- Os byddwch yn y ciw, peidiwch ail-lwytho’r dudalen gan fyddwch yn colli eich lle;
- Mae’r tocynnau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
I’r rhai sydd â thocynnau, bydd y gatiau yn agor am 6:30 heno, cyn i’r gêm ddechrau am 8 o’r gloch.