Ian Williams a'i deulu yn Lyon yn barod am y gem
Mae un cefnogwr o Gymru wedi cael mwy na’i siâr o anlwc wrth ddilyn tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016.

Pythefnos yn ôl fe aeth Ian Williams a’i deulu i’r ddinas anghywir er mwyn cefnogi’r crysau cochion.

Ar ôl glanio ym maes awyr Brwsel, dywedodd fod ei Sat Nav wedi’i dywys i Lille yng Ngwlad Belg yn hytrach na’r Lille yn Ffrainc a oedd 300 milltir i ffwrdd.

“Dw i dal methu credu beth ddigwyddodd,” meddai.

“Roedd yna ddau le o’r enw Lille ac fe aeth y Sat Nav â ni i’r un anghywir.”

Yna’r bore yma fe wynebodd dro trwstan arall wrth glywed fod ei daith awyren i Lyon heddiw wedi’i gohirio ymysg y 200 o deithiau awyrennau eraill sydd wedi’u gohirio o ganlyniad i streic awyr yn Ffrainc.

“Mae wedi bod yn daith a hanner, a dw i ddim wedi cael llawer o lwc, ond mae wedi bod gwerth pob ceiniog i weld Cymru yn y rownd gynderfynol,” meddai wrth Golwg360.

Bellach mae’r gŵr 37 oed sy’n berchen ar gwmni Cleansweep yn Abertawe wedi cyrraedd ei westy yn Lyon gan ddweud fod yr awyrgylch yno’n “anhygoel.”

“Rydyn ni gyd yn edrych ymlaen at y gêm nawr, ac mae fel haid o goch yma.”

“Dw i ddim wedi siarad â llawer o’r bobol leol eto, ond dw i’n siŵr bydd y Ffrancwyr eisiau inni ennill,” meddai Ian Williams.