Mae rhai o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru sy’n teithio i’r gêm fawr yn Lyon nos fory wedi gorfod aildrefnu eu cynlluniau neu wynebu colli’r gêm yn dilyn streic ddiweddaraf gan reolwyr traffig awyr Ffrainc.
Mae mwy na 200 o deithiau awyrennau i Ffrainc wedi’u gohirio heddiw, a dyma’r 13eg streic awyr mewn 14 wythnos yn Ffrainc.
Mae Ryanair wedi cadarnhau eu bod nhw wedi gohirio 102 o deithiau heddiw ac easyJet wedi gohirio 46 taith gan ddweud eu bod yn “gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau anghyfleuster y streic hon.”
Dydy British Airways ddim wedi cadarnhau eto faint o deithiau maen nhw wedi eu gohirio, ond mae datganiad ganddynt yn nodi: “Unwaith eto rydyn ni’n erfyn ar Lywodraeth Ffrainc a’r undebau masnach i ddatrys hyn fel y gall cwsmeriaid fynd ar eu gwyliau a’u teithiau busnes heb y gweithredu cyson hyn.”