Gareth Bale yn dathlu yn ystod Ewro 2016
Yn dilyn llwyddiant Cymru yn Ewro 2016, llond llaw o sefydliadau Prydeinig fydd yn dathlu drwy godi baner Cymru y tu allan i’w hadeiladau.

Mae golwg360 ar ddeall y bydd Downing Street yn codi baner Y Ddraig Goch os bydd Cymru’n cyrraedd y ffeinal ddydd Sul.

A bydd Swyddfa’r Alban ac Adran Diwylliant, Chwaraeon a Chyfryngau Llywodraeth Prydain yn gwneud yr un peth ar gyfer y rownd cynderfynol yn erbyn Portiwgal fory.

Ond mae sefydliadau eraill fel Palas Buckingham, Clarence House, Tŷ’r Cyffredin, Tŵr Llundain a’r London Eye wedi dweud nad oes cynlluniau ganddyn nhw i ddathlu camp y tîm.

Dydy Palas Buckingham, Clarence House a Thŵr Llundain ddim fel arfer yn codi baneri heblaw am  Jac yr Undeb, am eu bod yn adeiladau brenhinol ac ni fydd newid i hyn er mai Cymru yw’r unig wlad o wledydd Prydain sydd dal yn y bencampwriaeth.

Dywedodd London Eye nad oes cynlluniau ganddyn nhw ar hyn o bryd i oleuo’n goch, gwyn a gwyrdd ond bod yr adeilad yn cael ei oleuo’n goch yn barod, am fod yr atyniad yn cael ei noddi gan Coca-Cola.

Ffanbarthau ledled y wlad

Nôl yng Nghymru, ac fe fydd ffanbarthau (fan zones) yn cael eu sefydlu ledled y wlad i wylio Cymru yn herio Portiwgal ddydd Mercher.

Mae ffanbarth Caerdydd wedi’i symud o Barc Biwt i Stadiwm y Principality, gyda lle i hyd at 20,000 o gefnogwyr yno. Mae’n debyg bod y tocynnau i gyd wedi’u gwerthu.

Ac mae ffanbarthau am gael eu gosod ym Mae Colwyn ym Mharc Eirias, ar faes sioe Mona ar Ynys Môn, yn Arena Rhyl ac yng Ngorsaf Ganolog Wrecsam yn y Gogledd.

Yn y de, yn ogystal â’r un anferth yng Nghaerdydd, bydd ffanbarthau yn Aberystwyth, ym Mharc Singleton yn Abertawe, Casnewydd a Phontypridd.

Ac mae byd busnes wedi ymuno a’r dathliadau, gyda chwmnïau mawr fel Budweiser ac Adidas yn hysbysebu’n Gymraeg.

Galw am y cyfle i ddweud ‘diolch’

Pan fydd y chwaraewyr yn dod yn ôl i Gymru ar ddiwedd eu cyfnod yn y bencampwriaeth, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw am gynnal taith ar fws â nenfwd agored ledled y wlad i groesawu’r bechgyn.

Dywedodd fod tîm Chris Coleman yn haeddu cael eu diolch am eu llwyddiant yn Ffrainc a’i bod yn bwysig bod pobol yn cael y cyfle i ddangos eu cefnogaeth.

“Mae tîm pêl droed Cymru wedi uno’r genedl gyda’u brogarwch, eu hangerdd a’u hyder,” meddai AC y Rhondda.

“Maen nhw wedi gwneud i ni gredu bod unrhyw beth yn bosib.”

 ‘Ail-danio angerdd’

Ychwanegodd: “Beth am sicrhau bod gennym ni gyd y cyfle i ddweud ‘diolch’ i’r tîm, y tîm rheoli a’r staff cefndir a phawb yng Nghymdeithas Bêl Droed Cymru am eu gwaith wrth roi Cymru ar lwyfan y byd.

“Maen nhw wedi ail-danio angerdd hen gefnogwyr pêl droed ac wedi creu dilynwyr newydd i’r gêm. Dw i’n sicr y bydd miloedd am ddangos eu diolch am yr hyn maen nhw wedi’i wneud i’r genedl.”