Llys y Goron Bryste lle bydd y cwpl yn ymddangos ar 18 Gorffennaf
Mae dyn wedi cyfaddef achosi niwed corfforol difrifol ar ôl i fachgen 18 mis oed gael ei saethu yn ei ben gyda gwn awyr.

Fe fu Jordan Walters, 24, gerbron Llys Ynadon Bryste bore ma.

Mae’r plentyn, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael anaf difrifol i’w ben yn Hartcliffe, Bryste am 4yp ddydd Gwener.

Nid yw partner Jordan Walters,  Emma Jane Horseman, 23, wedi cyflwyno ple i gyhuddiad o’i gynorthwyo i gyflawni’r drosedd.

Cafodd y cwpl, o Heol Bishport yn Hartcliffe, eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Bryste ar 18 Gorffennaf.