Nigel Farage Llun: PA
Mae Cynghorydd UKIP yng Ngheredigion wedi amddiffyn penderfyniad yr arweinydd Nigel Farage i ymddiswyddo.
Dywedodd Gethin James, cynghorydd ward Aberporth, wrth Golwg360: “Mae e wedi symud y blaid ymlaen ymhell iawn a chyrraedd uchelgais y blaid, felly mewn ffordd mae’r gwaith roedd e am wneud wedi’i gyflawni.”
Dywedodd nad oedd yn synnu ei fod wedi ymddiswyddo oherwydd, “ar ddiwedd y dydd, dydw i ddim yn credu fod neb yn y Llywodraeth yn Llundain yn mynd i adael iddo fod yn rhan o’r trafodaethau ta beth.”
Ac o ran cyflawni gweledigaeth Brexit, ychwanegodd Gethin James mai “lle’r Llywodraeth a’r Prif Weinidog nesaf yw gwneud hynny, ac maen nhw wedi cael neges glir gan bobl ar lawr gwlad.”
‘Uno’r blaid’
Mae ambell enw am olynydd posib i Nigel Farage eisoes wedi’u taflu i’r pair gan gynnwys Paul Nutall, Suzanne Evans a Diane James.
Er hyn, mae unig AS y blaid, Douglas Carswell, wedi nodi’n glir nad yw’n bwriadu sefyll fel arweinydd.
Fe fu’r AS yn feirniadol o rai o ymgyrchoedd Nigel Farage gan gynnwys y poster dadleuol ‘Breaking Point’ a oedd yn dangos cannoedd o ffoaduriaid yn cerdded drwy gefn gwlad Ewrop.
Nid yw arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill wedi datgan a fydd yn sefyll fel ymgeisydd hyd yn hyn.
Dywedodd Gethin James ei bod yn rhy gynnar i wybod pwy fyddai ei arweinydd delfrydol, ond dywedodd fod angen rhywun allai “uno’r blaid achos mae tamed bach o hollt wedi bod yn ddiweddar.”
“Mae’n drueni i’r blaid bod Nigel Farage yn gadael achos mae e wedi bod yn arweinydd da, ond rhaid parchu mai penderfyniad personol yw hwn.”