Andrea Leadsom, Llun: PA
Gweinidog Ynni Prydain ac un o arweinwyr yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd yw’r diweddaraf i gyhoeddi ei hymgyrch yn y ras am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol.

Wrth i Andrea Leadsom lansio ei hymgyrch heddiw dywedodd ei bod am sicrhau hawl dinasyddion Ewrop sydd eisoes yn byw ym Mhrydain i aros.

Serch hynny, mae’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond, wedi dweud nad oes modd sicrhau y bydd pobol o’r UE yn medru parhau i fyw ym Mhrydain heb fod ymrwymiad tebyg yn eu lle ar gyfer Prydeinwyr sy’n byw dramor.

Mae Andrea Leadsom yn un o’r pum ymgeisydd a allai olynu David Cameron fel Prif Weinidog Prydain.

Ar ôl i Boris Johnson newid ei feddwl a pheidio sefyll, y ffefryn i ennill ar hyn o bryd yw’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.

Ymgeiswyr

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove, a’r Cymro, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb, hefyd yn y ras, ynghyd â Liam Fox – y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn.

Dau o’r pump hynny, sef Stephen Crabb a Theresa May, oedd yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r pump bellach yn cystadlu am gefnogaeth gan gyd ASau Ceidwadol i gyrraedd y bleidlais cyn i’r rownd gyntaf o bleidleisio ddechrau dydd Mawrth.

Mae Andrea Leadsom eisoes wedi cael cefnogaeth y Ceidwadwyr Iain Duncan-Smith a John Redwood, tra bod yr Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond, wedi rhoi ei gefnogaeth i Theresa May.