Angela Eagle Llun: Lauren Hurley/PA Wire
Mae cyn-ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, Angela Eagle wedi rhybuddio ei bod yn barod i herio Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y blaid os nad yw’n camu o’r neilltu yn fuan.

Dywedodd fod ganddi’r gefnogaeth i ddod yn arweinydd a’i bod yn galw ar Corbyn i roi’r gorau i’w rôl wedi’r bleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn yr wythnos ddiwethaf.

Ychwanegodd fod Jeremy Corbyn yn gwrthod trafod â’r dirprwy arweinydd, Tom Watson, i geisio ffyrdd  i ddatrys argyfwng yr arweinyddiaeth.

“Mae’n wythnos ers i Jeremy golli’r bleidlais o ddiffyg hyder ac mae nifer o bobl ar draws y wlad eisiau iddo ystyried ei sefyllfa,” meddai.

Adroddiad Chilcot

Enw arall sy’n cael ei grybwyll ar gyfer arweinyddiaeth y blaid yw Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith.

Ond, mae Jeremy Corbyn wedi pwysleisio ei fod am ddal ei dir, ac mae disgwyl iddo wneud hynny tan ar ôl cyhoeddi adroddiad Chilcot i ryfel Irac ddydd Mercher.

Bydd yr adroddiad sydd wedi cymryd chwe blynedd i’w gwblhau yn amlinellu’r amgylchiadau i’r rhyfel rhwng 2003 a 2009 ac a laddodd 179 o Brydeinwyr.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i Jeremy Corbyn wynebu cwestiynau’n ymwneud â gwrth-Semitiaeth o fewn y blaid Lafur heddiw.