Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar y Cynulliad i gytuno ar safbwynt trafod swyddogol sy’n ystyried telerau Cymru o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Leanne Wood fod angen cynnal asesiad ar effaith Brexit ar Gymru gan ddweud nad mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw’r penderfyniad hwnnw.
Dywedodd y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol graffu a chytuno arno a’i gyflwyno i’r Prif Weinidog yn San Steffan.
Yn ei haraith dywedodd, “cyn gynted ag y bydd y Prif Weinidog honno neu hwnnw yn eistedd wrth y ddesg yn 10 Stryd Downing, dylai safbwynt Cymru fod yno yn ei f/mewnflwch.”
‘Dylai annibyniaeth fod yn opsiwn’
Cyfeiriodd yn ei haraith hefyd at sefyllfa’r Alban a’u hawydd am refferendwm i adael y DU.
“Os yw pobl yr Alban am adael y DU i ddiogelu eu haelodaeth yn yr UE, yna dylai annibyniaeth i Gymru fod yn opsiwn yma hefyd,” meddai.
“Byddai’r sefyllfa newydd hon yn golygu fod angen i bobl benderfynu a ydym am fod yn rhan o endid ‘EnglandAndWales , neu a ydym am wneud rhywbeth gwahanol,” ond dywedodd mai megis dechrau y mae’r trafodaethau hynny.
Pwysleisiodd hefyd nad oedd y bleidlais i adael yr UE yn bleidlais i ganoli mwy o rym yn San Steffan.
Ond, ychwanegodd fod angen gwneud mwy i ddiogelu buddiannau Cymru, gan alw felly am gytundeb trafod swyddogol ar fyrder.
“Dw i wedi fy siomi gan y diffyg gweithgarwch llywodraethol hyd yn hyn,” meddai.
Cynllun Lliniaru Cenedlaethol
Mae Steffan Lewis, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, wedi ategu galwad Leanne Wood gan ddweud fod angen ‘Cynllun Lliniaru Cenedlaethol’ ar Gymru.
Dywedodd ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) y dylai’r cynllun ystyried dyfodol economaidd ardaloedd fel y gorllewin a’r cymoedd oedd yn dibynnu’n helaeth ar arian yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnig Mesur Tegwch Economaidd i alluogi Llywodraeth Cymru i lunio polisïau ar gyfer holl rannau o Gymru.
Ychwanegodd fod angen ystyried creu Banc Buddsoddi i Brydain, a fyddai’n adleoli cyllidebau’r UE yn eu tro.
Yn ogystal, mae angen i Gymru ddiffinio ei lle o fewn y gymuned ryngwladol a’i pherthynas newydd â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd o ran symud, masnachu a denu buddsoddwyr.