Mae dau o bobol wedi cael eu cyhuddo o saethu babi ym Mryste.

Mae Harry Studley, sy’n flwydd oed, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael anafiadau i’w ben brynhawn dydd Wener.

Mae Jordan Walters, 24, ac Emma Jane Horseman, 23, wedi cael eu cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae’r ddau wedi’u cadw yn y ddalfa cyn iddyn nhw ymddangos gerbron ynadon ddydd Llun.

Mae’r heddlu’n rhoi cymorth i’w deulu, ac maen nhw wedi diolch i’r gymuned leol.