Angus Robertson: Dirprwy arweinydd nesa'r SNP?
Mae Angus Robertson wedi cadarnhau ei fod yn sefyll i fod yn ddirprwy arweinydd yr SNP.
Ymddiswyddodd Stewart Hosie yn dilyn honiadau mewn papur newydd ei fod yn cael perthynas â newyddiadurwraig.
Cafodd Robertson, aelod seneddol Morau, ei ethol am y tro cyntaf yn 2001, ac ef oedd arweinydd ymgyrch etholiadol y blaid yn San Steffan y llynedd.
Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Robertson fod “gwarchod lle’r Alban yn Ewrop” yn “jobyn fawr”.
Dywedodd mai “braint” fyddai bod yn ddirprwy o dan arweinyddiaeth Nicola Sturgeon.
Christopher McEleny yw’r unig ymgeisydd arall sydd wedi cadarnhau ei fod yn sefyll, ond mae adroddiadau’n awgrymu y gallai Alyn Smith a Tommy Sheppard sefyll hefyd.