Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i farwolaeth dyn 60 oed ym Mangor fore Sadwrn.

Cafwyd hyd i gorff Peter Jones, 60, mewn lôn ger y Stryd Fawr yn oriau mân y bore.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy’n gwybod lle’r oedd e yn y 24 awr cyn ei farwolaeth.