Mae criw blin wedi ymgynnull tu allan i dŷ Boris Johnson y bore yma wrth i’r gwleidydd ymddangos yn dilyn y bleidlais o blaid Brexit.

Fe gafodd y ffefryn i olynu David Cameron ei alw yn “scum” a “tw*t” gan y dorf wrth iddo anelu am bencadlys yr ymgyrch tros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Boris Johnson yn dawedog wrth iddo gael ei hebrwng i gar cyfagos gan sawl heddwas, er bod haid o newyddiadurwyr yno i’w holi.

Wedi iddo fynd i’r car, fe gafodd y cerbyd ei atal rhag mynd yn bell iawn gan griw o seiclwyr a thorf.

Roedd y bobol yn gweiddi “where are you going, Boris?” a “scum” arno yn y car.

Fe lwyddodd yr heddlu i ryddhau’r cerbyd wedi rhyw bum munud.