Sweden ar fap
Mae chwaraewr pêl-droed o Sweden wedi ei hel o’r maes am rechan yn aflafar.

Fe gafodd Adam Lindin Ljungkvist gerdyn coch am ymddwyn yn anfoesgar ar y cae, yn ôl gwefan Goal.com.

Dywedodd y chwaraewr nad oedd wedi bwriadu achosi loes drwy ollwng gwynt.

“Roeddwn i angen rhechan, roedd gen i boen yn fy mol,” meddai.

Yn ôl y dyfarnwr Dany Kako roedd Ljungkvist yn euog o “bryfocio bwriadol”.

Colli o 5-2 fu hanes tîm Ljungkvist, sef Pershagen SK.