Gareth Bale Llun: UEFA
Mae Gareth Bale yn credu fod gan Gymru’r hawl frolio dros Loegr ar ôl ennill eu grŵp yn Ewro 2016.

Meddai seren Cymru bod gorffen yn gyntaf yn y grŵp yn “fuddugoliaeth foesol” i Gymru a’i bod hi wastad yn “braf” bod un yn well na’r Saeson.

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon yn yr 16 olaf ym Mharis nos Sadwrn. Os yw Cymru’n ennill mae’n edrych yn debygol mai Gwlad Belg fydd eu gwrthwynebwyr yn y chwarteri.

Bydd Lloegr, a orffennodd yn ail yn y grŵp, yn wynebu Gwlad yr Iâ ddydd Llun gyda’r posibilrwydd o wynebu Ffrainc yn y chwarteri os ydyn nhw’n fuddugol.

Ond mae Gareth Bale – a ddaeth y chwaraewr cyntaf ers 2004 i sgorio ym mhob un o’r tair gêm grŵp yn yr Ewros – wedi mynnu nad yw’n edrych ymhellach na’r gêm nos Sadwrn yn Parc des Princes.

Yma i ennill

“Yn amlwg, mae rhywun yn dod i’r bencampwriaeth am un rheswm,” meddai Gareth Bale, sydd ar hyn o bryd yn gyd-prif sgoriwr y gystadleuaeth gyda thair gôl.

“I ennill. Nid i chwarae tair gêm a mynd adref. Y nod yn y pen draw yw ceisio ennill y bencampwriaeth. Ond mae ein ffocws ni ar hyn o bryd ar Ogledd Iwerddon.”

Y tro diwethaf i Gymru a Gogledd Iwerddon gyfarfod oedd mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd ym mis Mawrth – 1-1 oedd y sgôr. Ond yn y gêm honno, roedd Cymru heb ddewiniaeth Gareth Bale na Aaron Ramsey.

‘Teimlad Anhygoel’

Ychwanegodd Gareth Bale bod “teimlad anhygoel” yng ngwersyll Cymru ar ôl y fuddugoliaeth 3-0 dros Rwsia.

Mae’r gêm wedi cael ei disgrifio fel un o’r perfformiadau gorau yn hanes pêl-droed Cymru, a’i fod yn dangos pa mor bell mae tîm Chris Coleman wedi datblygu yn ddiweddar.

“Dyn ni wedi bod ar daith enfawr,” meddai Bale. “Ry’n ni wedi bod mewn rhai mannau drwg – roedden ni’n 112 yn y byd a nawr ry’n ni’n 16 olaf yr Ewros.

“Mae’r rhain yn ddyddiau i’w mwynhau.

“Ond y diwrnod ar ôl gêm Rwsia roedd hi nôl at fusnes ac yn ôl ar y cae hyfforddi.”