Y trafferthion yn Marseille rhwng cefnogwyr Lloegr a Rwsia
Mae swyddogion sy’n ymchwilio i’r trais yn Marseille yn ystod Ewro 2016 wedi rhyddhau lluniau o 73 o gefnogwyr pêl-droed Lloegr sydd dan amheuaeth o fod yn rhan o’r trwbl.

Mae swyddogion o Uned Plismona Pêl-droed y DU (UKFPU) yn gobeithio cael gwybod pwy yw’r dynion yn dilyn y gwrthdaro a fu cyn gêm Lloegr yn erbyn Rwsia ar 11 Mehefin.

Mae’r heddlu hefyd yn apelio ar bobl i roi unrhyw luniau neu fideos sydd ganddyn nhw o’r ymladd, wnaeth arwain at 14 o gefnogwyr Lloegr yn cael eu cludo i’r ysbyty, iddyn nhw.

Mae dau o gefnogwyr Lloegr yn parhau i fod yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol – Andrew Bache, 51, o Portsmouth a Stewart Gray, 47 oed, o Gaerlŷr.

Ymddangosodd chwech o gefnogwyr Lloegr mewn llys yn Ffrainc ychydig ddyddiau yn dilyn yr helbul ac fe gawson nhw ddedfrydau o rhwng un a thri mis yn y carchar am gymryd rhan yn yr ymladd.

Daeth yr apêl yn dilyn noson anhygoel i dîm Gweriniaeth Iwerddon yn erbyn yr Eidal yn Lille a welodd y Gwyddelod yn ymuno â Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn 16 olaf y bencampwriaeth.