Warren Gatland (Llun: Gareth Fuller/PA)
Mae Cymru wedi gwneud dau newid yn y rheng flaen ar gyfer y trydydd prawf yn erbyn Seland Newydd yn Dunedin ddydd Sadwrn gyda Rob Evans a Tomas Francis dod i mewn i’r tîm.

Mae Rob Evans yn cymryd lle Gethin Jenkins sydd wedi dychwelyd adref yn gynharach yr wythnos hon yn dilyn anaf i’w goes. Mae Tomas Francis yn dechrau yn lle Samson Lee sy’n cymryd ei le ymysg yr eilyddion.

Mae gweddill y pac yr un fath a bydd Sam Warburton yn chwarae ei hanner canfed gêm ryngwladol fel capten rhyngwladol.

Mae’r cefnwyr hefyd yr un fath a’r ail brawf gyda’r ddeuawd o’r Gweilch Rhys Webb a Dan Biggar yn fewnwr a maswr gyda Jamie Roberts a Jonathan Davies yng nghanol y cae. Hallam Amos a Liam Williams yw’r asgellwyr a Rhys Patchell sy’n chwarae’n safle’r cefnwr.

‘Hyder’

Meddai prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Dyn ni wedi chwarae rygbi da yn y ddau brawf cyntaf ac yn awyddus i orffen y daith ddydd Sadwrn gyda pherfformiad y byddwn ni’n hapus ag ef.

“Fe wnaethon ni wella yn yr ail brawf gan ymladd hyd y diwedd ac mae’n rhaid i ni gael y gred a’r hyder y gallwn gymryd y fuddugoliaeth y penwythnos hwn.”

Ar y fainc mae Aaron Jarvis a Samson Lee yn ymuno â Scott Baldwin, Jake Ball, Ellis Jenkins, Gareth Davies, Rhys Priestland a Scott Williams.

Bydd y gic gyntaf am 8:35 bore Sadwrn.