Ein criw ni o Gymry a thîm pêl-droed Ambazac ar ôl y gêm gyfeillgar
Nid jyst yma yn yr Ewros am barti y mae Cymru bellach, yn ôl Iolo Cheung, sydd wedi bod yn dilyn y tîm o gwmpas Ffrainc fel miloedd o gefnogwyr eraill…
Bron yn syth wedi’r chwiban olaf roedden ni eisoes yn dechrau clywed gan ffrindiau nôl yng Nghymru oedd i gyd â’r un cwestiwn – ‘oes gennych chi dal docyn sbâr ar gyfer Paris ddydd Sadwrn?!’
Os mai’r pryder cyn gêm nos Lun oedd y gallai Cymru fod yn ffarwelio ag Ewro 2016 ar ôl dim ond deg diwrnod petai pethau’n mynd o chwith, roedd teimladau wedi’u trawsnewid erbyn y diwedd i orfoledd ac anghrediniaeth.
Oedd, roedd Rwsia’n dîm gwael, ond dyna hefyd oedd y gorau dw i erioed yn cofio gweld Cymru’n chwarae yn yr holl amser dw i wedi gwylio’r tîm cenedlaethol.
Doedd y sgôr 3-0 ddim yn gwneud cyfiawnhad â’r gêm, gyda’r crysau cochion yn rheoli’n gyfan gwbl – fe allai hi’n hawdd wedi bod yn chwech neu saith erbyn y diwedd.
A dyna oedd un o’r pethau gorau am y gêm nos Lun – o dan bwysau, gyda’r tîm angen achub eu crwyn ar ôl y golled siomedig yn erbyn Lloegr, fe wnaethon nhw ymateb yn y ffordd orau bosib.
Cafodd Ramsey ei gêm orau dros Gymru ers blynyddoedd, roedd Bale yn fygythiad drwy gydol y gêm o’r diwedd, ac fe ddangosodd Joe Allen reolaeth lwyr o faterion yng nghanol cae.
Pob clod i gefnogwyr Cymru hefyd oedd yno unwaith eto yn eu miloedd, gan floeddio canu heb saib drwy gydol yr ornest, a’r dathlu’n parhau tu allan i’r maes wedi’r chwib olaf hefyd:
Beth nesaf?
Mae’r sylw bellach wedi troi at rownd yr 16 olaf, a’r gwrthwynebwyr i Gymru yn stadiwm y Parc des Princes ddydd Sadwrn fydd Gogledd Iwerddon.
Cyfartal o 1-1 orffennodd hi rhwng y ddau dîm mewn gêm gyfeillgar nôl ym mis Mawrth, ond roedd hynny heb Bale na Ramsey a chyda Joe Allen hefyd yn gwylio’r rhan fwyaf o’r gêm o’r fainc, felly gall y crysau cochion ystyried eu hunain yn ffefrynnau ar gyfer hon.
Y newyddion gwell o ran materion ar y cae yw bod ennill y grŵp wedi gosod Cymru yn hanner ‘neisiaf’ y twrnament.
Mae Sbaen, yr Almaen, Lloegr, Ffrainc a’r Eidal i gyd yn yr hanner arall (cymrwch gip ar eich siart wal wedi’i ddiweddaru am esboniad gweledol) sy’n golygu na fyddai posib i ni eu hwynebu nhw tan y ffeinal.
Gwlad Belg neu Hwngari fyddai ein gwrthwynebwyr yn rownd yr wyth olaf os ydyn ni’n fuddugol ym Mharis ar y penwythnos, a’r timau eraill yn ein hanner ni ydi Gwlad Pwyl, Swistir, Croatia a Phortiwgal.
Mae cefnogwyr Cymru wedi arfer meddwl yn besimistaidd, a hynny ar ôl degawdau o wylio’r tîm yn rhoi digon o reswm iddyn nhw deimlo felly.
Ond rydyn ni eisoes wedi dangos ein bod ni yma yn Ffrainc nid jyst am y parti, ond i gystadlu hefyd, felly beth am ddechrau breuddwydio tra ‘dan ni wrthi? Pryd arall gawn ni gyfle i wneud hyn?!
Rhedeg i Paris
Mae llawer wrthi’n gwneud union hynny eisoes wrth gwrs, ac fel dw i ‘di crybwyll eisoes, prin allwch chi droi ar y cyfryngau cymdeithasol heb weld negeseuon gan y byd a’i betws yn trefnu tripiau munud olaf i Baris.
Mi fydd prifddinas Ffrainc yn fôr o goch ymhen tridiau, a pharth y cefnogwyr yn gorlifo â Chymry yno i ymuno yn y parti ond heb lwyddo i gael tocyn prin ar gyfer yr ornest fawr.
Allai ond ddychmygu sut mae’r cyffro nôl adref yn teimlo, wrth i’r wlad gyfan gael eu hysbrydoli gan y genhedlaeth aur sydd o’r diwedd wedi rhoi llwyfan i bêl-droed Cymru.
Hyd yn oed allan fan hyn yn Ffrainc, mae trigolion lleol a chefnogwyr gwledydd eraill yn gweld y Ddraig Goch ar ein camper neu’r crysau coch sydd amdanom ac yn gweiddi llongyfarchiadau ac anogaeth.
Mae’n anhygoel sut y mae’r twrnament yma eisoes wedi rhoi Cymru a’r iaith ar y map, ac fe groeswn bopeth y gwnaiff ein siwrne anhygoel barhau y tu hwnt i’r dyddiau nesaf.
Cymru v Ambazac
Un o’r atgofion melysaf sydd gennym ni o’n trip ni hyd yn hyn oedd ein hymweliad â thref Ambazac, reit yng nghanol Ffrainc rhyw hanner ffordd rhwng Paris a Toulouse.
Mae gan un o’r hogiau berthnasau yno, ac wrth aros yno ar ein taith i lawr i’r de fe drefnon ni gêm gyfeillgar â’r tîm pêl-droed lleol.
Cawsom groeso cynnes iawn, er dw i’n siŵr bod trigolion Ambazac yn pendroni beth yn y byd oedd yn mynd ymlaen pan rowliodd pump campyrfan i mewn i’r dref yn llawn Cymry swnllyd.
Fe orffennodd y gêm ei hun yn 10-7 i’r tîm cartref, gyda’r ymwelwyr yn ildio’r rhan fwyaf o’r goliau yn yr ail hanner wrth i’r gwres llethol flino sawl un.
Cafwyd noson gofiadwy wedi hynny fodd bynnag, gyda’r Ffrancwyr yn ein gwahodd ni i far y clwb am sawl diod wedi’r gêm, cyn taro draw i un o dafarndai’r dref am bryd o fwyd tri chwrs a rhagor o firi.
Fe barhaodd y canu ymhell i’r nos, gyda’r Ffrancwyr yn cael gwledd o ganeuon Cymreig a ninnau yn ein tro yn dysgu ambell un o’u rhai nhw.
Roedden nhw hyd yn oed wedi cyflwyno tlws arbennig i ni er mwyn nodi’r achlysur, ac fe gawson nhw faner Cymru wedi’i arwyddo gan bob un ohonom i’w roi ar y wal yn y clwb.
Merci beaucoup, Ambazac – mae sôn eisoes am drip nôl i Gymru i’n herio ni eto rywbryd yn y dyfodol!