Chris Coleman yn dathlu buddugoliaeth ei dîm yn erbyn Rwsia nos Lun (Llun: PA)
Bydd Cymru’n herio Gogledd Iwerddon yn rownd un ar bymtheg olaf Ewro 2016 ddydd Sadwrn.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae am ym Mharc de Princes ym Mharis, am 17:00 amser Cymru, 18:00 amser Ffrainc.
Roedd yn rhaid disgwyl i weld canlyniadau grwpiau E ac F oedd yn cael eu chwarae heno cyn gwybod yn union pwy fyddai Cymru’n herio yn y rownd nesaf.
Yng ngemau olaf Grŵp F ddiwedd y prynhawn, sgoriodd Gwlad yr Iâ gôl hwyr i guro Awstria o 2-1 gan olygu mai nhw sy’n gorffen yn ail yn y grŵp. Lloegr fydd gwrthwynebwyr Gwlad yr Iâ yn y rownd nesaf.
Gêm arall y grŵp oedd honno rhwng Hwngari a Portiwgal a orffenodd yn gyfartal 3-3 gan olygu bod Hwngari, er mawr syndod, yn gorffen ar frig y grŵp a Portiwgal hefyd yn gwneud digon i gyrraedd y rownd nesaf ar wahaniaeth goliau.
Sgoriodd seren Real Madrid, Cristiano Ronaldo ddwy gôl i Bortiwgal gan olygu ei fod bellach uwchben Neil Taylor a Hal Robson-Kanu yn rhestr prif sgorwyr y bencampwriaeth.
Grŵp E
Roedd yn rhaid i Weriniaeth Iwerddon guro cewri Yr Eidal heno yng Ngrŵp E er mwyn cyrraedd rownd yr un ar bymtheg olaf, ac fe wnaethon nhw hynny mewn amgylchiadau dramatig wrth i Robbie Brady rwydo gyda pheniad gyda phum munud o’r 90 yn weddill.
Curodd Gwlad Belg Sweden o 1-0 yng ngêm arall Grŵp E gan sicrhau eu bod nhw’n gorffen yn ail yn y grŵp.
Bydd Gweriniaeth Iwerddon yn herio’r tîm cartref, Ffrainc, yn y rownd nesaf bnawn Sul.
Petai’r sgôr rhwng Iwerddon a’r Eidal wedi parhau’n gyfartal, yna Twrci fyddai gwrthwynebwyr Cymru ond fe newidiodd gôl Brady y sefyllfa gan olygu bydd Cymru’n herio nifer o wynebau cyfarwydd.
Bu i’r ddau dîm wynebu ei gilydd mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd fis Mawrth eleni, gyda’ Simon Church yn sgorio cic o’r smotyn yn y funud olaf i sicrhau gêm gyfartal 1-1.
Er hynny, roedd Cymru’n edrych yn gryfach na’r Gwyddelod trwy gydol y gêm, a hynny heb y sêr Aaron Ramsey a Gareth Bale yn chwarae, a Joe Allen ddim ond yn dod i’r cae yn yr ail hanner.