Gêm gyfartal gafodd Morgannwg a Swydd Gaint yn ail adran y Bencampwriaeth yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.
Roedd Morgannwg yn 22-0 yn eu hail fatiad ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod, ac fe wnaethon nhw orffen ar 279-6 ar ôl dechrau digon sigledig.
Ar ôl canfod eu hunain yn 124-5 ac mewn perygl o golli eu ffordd, adeiladodd y cynffon ddwy bartneriaeth sylweddol i achub y dydd.
Adeiladodd Aneurin Donald (67) a Graham Wagg (64 heb fod allan) bartneriaeth o 80 am y chweched wiced cyn i Craig Meschede (23 heb fod allan) ymuno â Wagg am yr wythfed wiced ac ychwanegu 75 cyn diwedd y dydd.
Roedd hanner canred i Mark Wallace (52) hefyd, ei gyfanswm unigol dosbarth cyntaf gorau’r tymor hwn.
Cipiodd Mitch Claydon dair wiced am 50 i orffen gydag wyth wiced yn yr ornest, ei ffigurau gêm gorau erioed mewn gornest ddosbarth cyntaf (8-156).
Yn gynharach yn yr ornest, roedd Wagg a Meschede eisoes wedi torri record y sir am y bartneriaeth seithfed wiced fwyaf erioed yn erbyn Swydd Gaint – 160 – gan dorri record flaenorol Eifion Jones ac Arthur Francis yng Nghaergaint yn 1982.
Yn ystod y batiad cyntaf hwnnw, fe gipiodd Mitch Claydon bum wiced am 106, a Calum Haggett yn gorffen gyda thair wiced am 70.
Wrth i Swydd Gaint ymateb, fe gawson nhw eu bowlio allan yn eu batiad cyntaf am 282, wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gipio pum wiced am yr ail waith y tymor hwn, a Sean Dickson oedd yr unig berfformiwr o fri i’r ymwelwyr wrth iddo daro 75.
Mae Morgannwg yn gorffen yr ornest gyda 12 pwynt, tra bod Swydd Gaint wedi sicrhau 10 pwynt.