Llun artist o Thomas Mair yn y llys ddydd Sadwrn Llun: PA
Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio’r Aelod Seneddol Llafur, Jo Cox, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron barnwr yn llys yr Old Bailey heddiw.
Bu farw Jo Cox, 41, ar ôl cael ei saethu a’i thrywanu yn y stryd yn ei hetholaeth yn Birstall, ger Leeds ddydd Iau diwethaf.
Mae Thomas Mair, 52, o Birstall, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, achosi niwed corfforol difrifol ac o fod a dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi trosedd, ac o fod a chyllell yn ei feddiant.
Yn ystod gwrandawiad cychwynnol yn Llys Ynadon Westminster ddydd Sadwrn fe wrthododd Mair a rhoi ei enw, gan ddweud ei fod yn cael ei alw’n “Death to traitors, freedom for Britain”.
Fe wnaeth ei ymddangosiad heddiw gerbron y barnwr Mr Ustus Sweeney drwy gysylltiad fideo o garchar Belmarsh.
Nid oedd cais am fechnïaeth a chafodd ei gadw yn y ddalfa.
Fe fydd yn ymddangos gerbron yr Old Bailey ar gyfer gwrandawiad cychwynnol fore dydd Iau.