Y gofodwr Tim Peake
Mae’r gofodwr Tim Peake yn dal i ddod dros y “ben mawr gwaetha’r byd” ar ôl treulio chwe mis yn y gofod heb ddisgyrchiant.

Gyda’i draed bellach ar y ddaear, ac yn y Ganolfan Gofodwyr Ewropeaidd yn Cologne, mae’n wynebu tair wythnos o brofion meddygol ac amserlen ymarfer corff llym.

Bydd meddygon yn tynnu gwaed ohono, yn cynnal sganiau MRI ac yn holi’r gofodwr o Loegr, i wella eu dealltwriaeth o’r effaith gorfforol a seicolegol o deithio’r gofod.

Bydd y gofodwr hefyd yn cael ei archwilio ar “fwrdd gwyro” a fydd yn troi safle ei gorff o fod yn llorweddol i fertigol er mwyn monitro’r ffordd mae ei galon a’i gylchrediad gwaed yn ymateb i ddisgyrchiant.

Dysgu cerdded

Bydd hi ychydig o ddyddiau eto nes bydd yr Uwchgapten Peake yn gallu cerdded yn iawn, gyda’i gydbwysedd wedi cael ei effeithio o fod yn y gofod am gyhyd.

Mae achosion o deimlo’n benysgafn a theimlo’n gyfoglyd yn broblemau cyffredin ymhlith gofodwyr ar ôl dod yn ôl i’r ddaear hefyd.

Ar ôl cyrraedd Cologne, dywedodd Tim Peake ei fod yn teimlo’n “benysgafn iawn” bob tro roedd yn symud ei ben.

Mae effeithiau o’r fath fel arfer yn diflannu’n gyflym ond gall gymryd hirach i rai dod drostynt, gyda rhai effeithiau yn gallu achosi newidiadau parhaol.

Mae treulio misoedd yn y gofod yn golygu bod cyhyrau ac esgyrn Tim Peake wedi gwanhau a bod ei galon wedi crebachu rhywfaint hefyd, er mae’r effeithiau hyn yn rhai dros dro.

 

Plymio i’r Ddaear ar 17,000mya

Ar eu taith yn ôl i’r ddaear, fe blymiodd y Prydeiniwr, gyda’i gyd-ofodwyr – Tim Kopra o America ac Yuri Malenchenko o Rwsia – o gyflymder o dros 17,000 milltir yr awr i 514mya gan godi’r tymheredd i 1,600C.

Fe wnaeth y capsiwl oedd yn eu cario barasiwtio i fan anghysbell yn Kazakstan, gan arafu i 3mya erbyn cyrraedd y ddaear.